AMDANOM NI

Mae cryfder SGaD i'w weld yn ei strwythur unigryw, sy'n galluogi Cynghrair y DU i weithio'n effeithiol ar agendâu polisi datganoledig a rhai cenedlaethol i ddatblygu gofal cymdeithasol a gwasanaethau plant a phobl ifanc o safon, a chyfrannu at yr agenda sgiliau a dysgu ehangach. Mae ei strwythur yn galluogi’r Cynghrair i rannu arfer gorau a dysgu oddi wrth ei gilydd, yn ogystal â datblygu prosiectau'r DU sy'n amlwg yn ychwanegu gwerth i weithluoedd gofal cymdeithasol, plant a phobl ifanc.


Mae gwaith SGaD wedi'i adeiladu o amgylch 6 amcan strategol:

  1. Darparu a chanoli Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer y gweithlu sy'n addas i bwrpas yn y sector
  2. Darparu a chynhyrchu teyrngarwch y sector tuag at fframwaith cymhwyso priodol ar gyfer y sector
  3. Hybu cynnydd yn sail sgiliau'r gweithlu drwy fentrau a dargedir o ran cyflenwi a galw
  4. Gwella gwaith recriwtio a chadw staff sydd â'r sgiliau priodol yn y sector
  5. Sicrhau gwell gwybodaeth strategol am y gweithlu ar draws y sector i gynorthwyo gwaith cynllunio strategol y CSS a budd-ddeiliaid yn y sector ehangach
  6. Datblygu gallu'r Cynghrair i gyflawni ei weledigdaeth strategol