Trosolwg: Hysbysu a thywys dysgwyr
Mae Sgiliau Gofal a Datblygu yn gweithio ym mhob gwlad yn y DU i ddatblygu cymwysterau sy'n galluogi pobl i ddysgu - a phrofi eu bod wedi dysgu - y pethau sy'n cyfrif go iawn ar gyfer gofal neu gefnogi o ansawdd uchel.
Mewn rhai rhannau o'r DU, mae'n rhaid i bobl gael cymhwyster penodol os ydynt am weithio mewn swydd neilltuol.
Mae angen i weithwyr cymdeithasol gwblhau un o'r graddau Gwaith Cymdeithasol a gynigir gan bron i 100 o brifysgolion a cholegau ar draws y DU.
Gall gweithwyr gofal/cefnogi fod eisiau cymhwyster SVQ (Cymwysterau Galwedigaethol yr Alban) neu FfCCh (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau) neilltuol yn dibynnu ar y lle maent yn byw yn y DU. Hyd yn oed pan na fydd cymhwyster yn ofynnol, bydd gwerth uchel arnynt a bydd yn bwysig iawn eu hennill.
Cynhwysir y mathau hyn o gymwysterau yn aml mewn Prentisiaethau (gweler adran 'Gyrfaoedd mewn Gofal' y wefan hon) [Dolen].
Rydym yn gweithio'n agos gyda chyrff sy'n cynnig y cymwysterau mae pobl angen i gael gyrfa mewn gwaith gofalu a chefnogi, neu waith cymdeithasol.
Gallwch ddod o hyd i fwy am gymwysterau SVQ a FfCCh a graddau Gwaith Cymdeithasol, yn adran 'Gyrfaoedd mewn Gofal' y wefan hon. [Dolen].