Grymuso cyflogwyr ac ymgysylltu â hwy
Mae gan gyflogwyr ran weithredol wrth ddarparu gweithlu medrus, cymwys a rhagorol i wasanaethu poblogaeth sy'n tyfu ac yn mynd yn hŷn. Er bod gan y DU fwy o sgiliau nag erioed, rydym yn dal ar ôl gweddill y byd ac nid ydym yn gwella'n sgiliau yn ddigon cyflym i sicrhau twf yn yr economi a chael gweithlu sy'n gystadleuol yn rhyngwladol. Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb i wella sgiliau eu gweithlu; rydym ninnau yma i'ch helpu i wneud hynny.
Gosod safonau i'ch gweithwyr
Sgiliau Gofal a Datblygu sy'n gosod y 'Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol' i'r bobl sy'n gweithio yn ein sector ni. Mae'r rhain yn disgrifio sut mae gwneud swydd arbennig yn dda - beth mae'n rhaid i weithiwr allu ei wneud, a hefyd beth mae'n rhaid iddynt ei wybod fel y gall hynny ddigwydd. Mae'r safonau hyn ar gael i bawb a gellir eu defnyddio mewn ffyrdd eraill hefyd, fel datblygu disgrifiadau swyddi i gynorthwyo gyda recriwtio, mesur perfformiad pobl sy'n gweithio mewn swydd arbennig, neu helpu sefydliadau i osod targedau ar gyfer gwella'r hyn maent yn ei wneud. Ewch at adran SGC (dolen) ein gwefan i gael gwybod mwy am safonau a chymwysterau i'ch gweithlu chi.
Amddiffyn y cyhoedd: Rheoleiddio a chofrestru
Mae pob un o'r pedwar rheoleiddiwr gwaith cymdeithasol yn y DU yn aelodau o bartneriaeth Sgiliau Gofal a Datblygu. Ein gwaith ni yw cynyddu amddiffyn pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol, codi safonau ymarfer a chodi hyder y cyhoedd yn y sector. Anelwn at amddiffyn pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a'u gofalwyr drwy hyrwyddo safonau ymddygiad uchel a thrwy weithredu pan fydd y cyhoedd mewn perygl. Y mecanwaith sydd gennym ar gyfer gwneud hynny yw cofrestr o weithwyr (sy'n orfodol i bob gweithiwr cymdeithasol ar draws y DU, gweithwyr gwasanaethau cymdeithasol yn yr Alban, a gweithwyr gofal yng Nghymru a Gogledd Iwerddon) a chyhoeddi a gweithredu'r 'codau ymarfer' ar gyfer y proffesiwn. Mae'r codau ymarfer yn amlinellu'r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol sy'n ofynnol i'r gweithwyr hyn wrth iddynt fod wrthi gyda'u gwaith beunyddiol. Eu bwriad yw sicrhau bod cyflogwyr, cydweithwyr, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr ac aelodau'r cyhoedd yn gwybod pa safonau y gallant eu disgwyl gan weithwyr cofrestredig.
Os hoffwch gael gweld unrhyw rai o'r cofrestrau, cliciwch ar y dolennau isod:
- Cymru: http://www.ccwales.org.uk/registration-and-conduct/search-the-register
- Gogledd: Iwerddon: http://www.niscc.info/check_the_niscc_register-9.aspx
- Yr Alban: http://www.sssc.uk.com/sssc/search-the-register.html
- Lloegr: http://www.gscc.org.uk/registerSearch.php
Sut i gymryd rhan
Un o'n cryfderau pennaf yw ein gallu i ymwneud â chyflogwyr yn helaeth ac mewn ffordd ystyrlon ar hyd a lled y DU. Ni yw eich llais, a byddwn yn defnyddio'r hyn a ddywedwch wrthym i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer.
Ddiwedd y llynedd sefydlwyd panel rhanddeiliaid Sgiliau Gofal a Datblygu gennym. Nod hwn yw ategu'r rhwydweithiau cenedlaethol a rhanbarthol sydd gennym, a rhoi mecanwaith ffurfiol i ni allu rhoi prawf ar syniadau a chyfeiriad i waith Sgiliau Gofal a Datblygu ar lefel y DU.
Mae'r mewnbwn a gawn o'r cyswllt gyda rhanddeiliaid yn hysbysu ein prosiectau a'n strategaethau ym mhob gwlad, ac ar draws y DU. Mae hyn yn ein cynorthwyo i sicrhau bod gan Sgiliau Gofal a Datblygu ei fys ar y pwls yn nhermau beth mae angen ar gyflogwyr a'r sector, fel y gallwn ymateb i hynny ym mhopeth a wnawn. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o banel y DU, neu os ydych am ganfod mwy am ein rhwydweithiau cyflogwyr lleol, cysylltwch â hanna.buchheit@skillsforcareanddevelopment.org.uk
Ewch at adran 'Dweud eich dweud' y wefan hon i gael gweld beth yw'r materion o bwys ar hyn o bryd, a chael dweud wrthym beth yw'ch barn chi amdanynt. Neu, os oes gyda chi syniad da ac am ei rannu â ni, anfonwch e-bost at sscinfo@skillsforcareanddevelopment.org.uk
Gwybodaeth Ddefnyddiol:
- Arfau a Datrysiadau
- SGC
- Acoladau