Croeso i Sgiliau Gofal a Datblygu
Ein nod yw creu gweithlu gofal a datblygu o'r radd flaenaf yn y DU.
Sgiliau Gofal a Datblygu (SGaD) yw'r cyngor sgiliau sector ar gyfer pobl sy'n darparu gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a gwasanaethau ar gyfer plant i bobl y DU. Mae hynny'n cynnwys gweithlu o dros 1.87 miliwn o bobl!
Mae sgiliau da a datblygu'r gweithlu'n hollbwysig ar gyfer twf yr economi a lles poblogaeth y DU. Mae ymchwil ddiweddar gan SGaD yn dangos bod gan 70% o bobl yn y DU brofiad personol neu fod gan eu perthnasau agosaf brofiad o ddefnyddio'r gwasanaethau yn ein sector. Mae hyn yn golygu y bydd ein gweithwyr yn effeithio ar fywydau pawb yn y DU ar ryw adeg yn eu bywydau.
Mae SGaD yn gweithio gyda thros 62,400 o gyflogwyr yn ein sector ac yn eu grymuso i fuddsoddi mewn gofal a datblygu mewn nifer o ffyrdd.